POBL IFANC EGNIOL
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn datblygu fframwaith newydd sbon ar gyfer hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau corfforol ymysg pobl ifanc. Ffocws y gwaith hyn yw gweithredu a chefnogi strategaeth Dringo’n Uwch y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r Cyngor Chwaraeon eisoes wedi derbyn cyllideb o £600,000 eleni a £3m ar gyfer y cyfnod 2007/8 i benodi swyddogion chwaraeon a fydd yn gysylltiedig ag ysgolion unigol ac a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau chwaraeon amser cinio ac ar ôl ysgol i ddisgyblion uwchradd. Bydd hyn yn ychwanegol i gyfundrefn addysg chwaraeon yr ysgolion. Bydd y swyddogion hyn yn cael eu lleoli o fewn ysgolion uwchradd o dan adain rheolaeth y Cyngor Chwaraeon neu yr Awdurdodau Lleol.
Er mwyn sicrhau ystyriaeth lawn o’r Gymraeg fel rhan o’r cynllun hwn mae’r Awdurdodau Lleol wedi derbyn rhestr o gwestiynau gan y Cyngor Chwaraeon er mwyn gosod meini prawf ar gyfer hysbysebu a phenodi staff cydlynol i’r cynllun. Mae’n rhaid sicrhau fod yr Awdurdod Lleol (a fydd yn gyflogwyr ar y swyddogion mewn ysgolion neu a fydd wedi contractio’r gwaith i fudiadau lleol) yn cynllunio er mwyn gallu darparu’r gwasanaeth hwn trwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau sy’n cael eu cynhyrchu fel rhan o’r prosiect yn ddwyieithog.
Rhaid i ysgolion hefyd fynnu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan yr Awdurdod Lleol er mwyn sicrhau swyddogion dwyieithog sydd yn meddu y gallu a’r crebwyll i ddarparu cyfleoedd chwaraeon i ddisgyblion mewn awyrgylch Cymraeg. Mae hyn yn holl bwysig i sicrhau defnydd yr iaith ymysg y disgyblion y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac i hybu sgiliau ieithyddol yn y maes chwaraeon.
Os oes sefyllfa yn codi yn eich hysgol neu’ch hardal leol a hoffech drafod gyda ni, a fyddech gystal â chysylltu gyda’r Bwrdd i nodi hyn ar un ai ieuenctid@bwrdd-yr-iaith.org.uk, neu 029 20 878000.
Diolch yn fawr iawn.
Uned Ieuenctid, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Awst 2006
Pobl Ifanc Egniol
Mae taflen gan Bwrdd yr Iaith yn amlinellu’r cyfle sydd i gael siaradwyr Cymraeg i annog defnydd o’r iaith gyda’n pobl ifanc.
Ond, mae’n bwysig i ysgolion bwyso ar eu Hawdurdodau Lleol i sicrhau bod swyddogion sy’n gallu siarad Cymraeg yn cael eu cyflogi, fel bod ein pobl ifanc yn arfer ein hiaith tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Os na fydd penaethiaid ysgolion yn pwyso am siaradwyr Cymraeg mae’n bosib y bydd y ddarpariaeth Gymraeg yn methu oherwydd diffyg lobïo.