
CYRSIAU CYDAG CYNRADD 2009
Mae angen cadarnhau lle ar y cyrsiau canlynol yn fuan
Cost y cyrsiau fydd £70.00 i’r athro/athrawes gyntaf ac yna £55.00 i’r ail athro/athrawes
10 Mehefin - Cwrs Cerddoriaeth Blynyddoedd Cynnar CA1/2 – Canolfan Gogarth, Conwy
Darparwr - Owain Gethin, GCaD a chyn-bennaeth Cerdd Ysgol y Creuddyn
Cwrs sydd wedi ei anelu at athrawon sydd ddim yn arbenigo yn y maes yn ogystal ag athrawon Cerddoriaeth.
19 Mehefin - Cwrs Daearyddiaeth – Ysgol y Bedol, Garnant, Rhydaman
Cwrs cyfeiriannu, mapio, defnydd o’r arddwyllt, defnydd o’r we ac edrych ar y Cwricwlwm newydd i gynllunio.
Darparwyr - Mr Dewi Roberts, Ysgol Maesydre a Mr Gareth James, Ysgol y Bedol
3 Gorffennaf - Cwrs Mathemateg - Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Mi fydd y darparwr yn siarad am nifer o agweddau sydd yn codi allan o’r Cwricwlwm Mathemateg
ac mi fydd pwyslais ar gynllunio Sgiliau Meddwl a defnydd o’r offer Numicon.
Darparwr – Mrs. Carol Ayers, Ymgynghorydd Mathemateg Sir Gaerfyrddin
8 Hydref - Cwrs Cerddoriaeth, Llety’r Parc, Aberystwyth
Rydym wedi medru trefnu ail gwrs Cerddoriaeth yn delio gydag agweddau
gwahanol
trafodwyd yn ein cwrs yn Aberystwyth a Gartholwg Ebrill 23 a 24.
Mae’r cwrs yn agored i athrawon sydd ddim yn arbenigo yn y maes yn ogystal ag athrawon Cerddoriaeth.
Hefyd i unrhyw un sydd ddim wedi dod ar y cyrsiau hyd yn hyn.
Darparwr - Owain Gethin Davies, GCaD a chyn-bennaeth Cerdd Ysgol y Creuddyn
16 HYDREF, 2009 CYNHADLEDD FLYNYDDOL CYDAG CYNRADD
GWESTY’R METROPOLE, LLANDRINDOD
Darparwyr: Mr Gareth Williams, cyn-bennaeth Ysgol Hendre, Caernarfon a chyn-bennaeth Cwmni Cynnal
Mr Dyfrig Ellis, Pennaeth Ysgol Lon Las, Abertawe - dull addysgu “Leonardo”
Mr Hywel Teifi Edwards
Ffurflenni ar gyfer cofrestru allan cyn diwedd y tymor.
Fyddech chi mor garedig â rhoi gwybod i Benweddig yn fuan os ydych am fynychu’r Gynhadledd eleni.
6 Tachwedd - Cwrs Mathemateg, Llety’r Parc, Aberystwyth
Fe fyddwn yn edrych ar y Cwricwlwm, Sgiliau Meddwl, defnydd o Numicon.
Fe fydd y darparwr yn trafod agweddau na ddeliwyd gyda nhw ar ein cwrs yn Llety’r Parc Tachwedd 2008.
Yn y cwrs yna fe ofynnwyd am ail gwrs ac rydym yn ffodus iawn ein bod wedi gallu trefnu i Carol Ayers i ddod atom unwaith eto.
Darparwr - Mrs. Carol Ayers, Ymgynghorydd Mathemateg Sir Gaerfyrddin
10 a 11 Tachwedd - Ymweliad Penaethiaid/Athrawon ardaloedd Caerffili, Merthyr ag ysgolion Y Dderwen,
Saron (Rhydaman) a’r Bedol Garnant. Cyfle i Benaethiaid ag Athrawon i drafod agweddau ar y Cyfnod Sylfaen a rhannu arfer dda.
Rydym yn trefnu ar hyn o bryd ymweliad gan Benaethiaid/Athrawon Sir Gâr ag Penaethiaid ag Athrawon i drafod agweddau ar y Cyfnod Sylfaen a rhannu arfer dda.
Rydym yn trefnu ar hyn o bryd ymweliad gan Benaethiaid/Athrawon Sir Gâr ag Ysgolion yn y Gogledd gwanwyn 2010.