
|
Hyfforddiant Arwain Teithiau Cerdded (Drwy’r Gymraeg) I ATHRAWON, AC ARWEINYDDION IEUENCTID |
|
Y Cwrs Nesaf : DYDDIAD: 11-13 Mehefin 2007 5-7 Hydref 2007 CÔST: £148.00 (dibreswyl) £208.00 (preswyl) LLEOLIAD: Plas y Brenin CYSWLLT: Tracey Evans ar (01690) 720106 E-bost: tracey.evans@mountaintrainingtrust.org |
|
Mae’r cwrs tri diwrnod yma wedi ei drefnu ar gyfer athrawon ac arweinyddion ieuenctid sydd ag ychydig o brofiad o gerdded yn yr awyr agored, ac sy’n edrych i arwain grwpiau o bobl ifanc ar ucheldiroedd Prydain. Nod y cwrs yw datblygu sgiliau technegol, barn a gwybodaeth eang, fydd yn eich gwneud yn arweinydd diogel a gofalus. Byddwch yn ymarfer y sgiliau yma cyn dychwelyd ar gyfer asesiad. Bydd pob diwrnod yn dechrau gan edrych ar ragolygon y tywydd, cyn trafod y lleoliad a chyfarpar ar gyfer y diwrnod hwnnw. Bydd y testunau ar gyfer y 3 diwrnod yn cynnwys : · Sgiliau morwriaeth gan ddefnyddio mapiau 1:25,000 a 1:50,000 · Dewis Llwybr · Adnabod ac osgoi perygl· Materion rheoli ac arwain grwpiau · Materion mynediad ac amgylcheddol · Cyfarpar grwpiau ac arweinyddion · Goruchwiliaeth, a defnydd pebyll a stof · Profiad o drefniant ac aros tros nôs · Llety mewn Cwt a Byncws · Problemau sy’n wynebu arweinyddion yn yr ucheldiroedd · Rhwystro problemau · Cludo’r Cwympedig · Technegau archwilio · Rhaid i ymgeiswyr gofrestru gyda Hyfforddiant Cwrs Arwain Mynydd Cymru a’r Cyngor Mynydda Prydeinig cyn mynd ar y cwrs. Am fwy o wybodaeth, ewch i : www.mltw.org gan ddilyn y linc i ‘registration’ . |