
Croeso i wefan CYDAG




Mae
CYDAG yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol B.I.G.
Cymdeithas o ysgolion
dwyieithog- cynradd ac uwchradd, yw CYDAG.
Ei nod yw hyrwyddo a datblygu pob agwedd ar addysg ddwyieithog drwy:
- alluogi ysgolion
dwyieithog i gefnogi ei gilydd ac i gydweithredu mewn amrywiol ffyrdd;
- gweithredu fel fforwm
i gyd-drafod materion o ddiddordeb proffesiynol cyffredin;
- trefnu gweithgareddau
i hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff a phenaethiaid ysgolion;
- gweithredu fel
asiantaeth i sicrhau gwasanaethau cefnogol i’r aelodau mewn cydweithrediad
â darparwyr mewn Awdurdodau a cholegau;
- cyfleu dyheadau a
phryderon, disgwyliadau a gofynion yr aelodau i'r cyrff cyhoeddus perthnasol
yng Nghymru ( Y Cynulliad, Estyn, APADGOS, CBAC, BIG);
- ymateb i ddogfennau
ymgynghorol a lleisio barn ar ddatblygiadau addysgol;
- darparu ffynhonnell
wybodaeth reolaethol i’r aelodau a rhwydwaith a all gynnig cefnogaeth a
chyngor i benaethiaid (yn arbennig rhai newydd) a'u timau rheoli.
